Rwy’n hoff iawn o deithio.

Ar awyren, er enghraifft, er mwyn cael gwyliau bach yn rhywle twym, gyda bwyd da a gwin rhad.

Neu ar drên, er mwyn cyrraedd mannau diddorol ym Mhrydain, megis Efrog – a chael mwynhau Evensong yn York Minster, cyn yfed peint hyfryd o Nerdbrewing Salted Almond Imperial Stout yn nhafarn y Trembling Madness.