Mae’r berfformwraig Tara Bethan wedi recordio cyfres o sgyrsiau sensitif gyda phobol greadigol o fyd y celfyddydau a’r cyfryngau, a fydd i’w clywed ar ffurf podlediad.

Yma, mae ei ffrind Llinos Williams, a fu yn bartner yn y project, yn egluro mwy am sut aethon nhw ati …

Dros dymor yr Hydref bydd cyfres o bodlediadau yn cael eu rhyddhau sy’n cynnwys sgyrsiau gyda rhai o wynebau cyfarwydd Cymru am ups and downs bywyd bob dydd – a sut mae’r celfyddydau a chreadigrwydd yn gallu helpu drwy gyfnodau hapus a heriol.

Prosiect gen i a fy ffrind Tara Bethan yw DEWR, sydd wedi troi cyfnod tawel o ran gwaith yn gyfle i ddysgu sgiliau newydd a chynhyrchu cyfres annibynnol o sgyrsiau agored a phwysig.

Nôl ym mis Mawrth roeddwn yn cychwyn ar yrfa lawrydd yn dilyn cyfnod mamolaeth, wedi bron i ddeng mlynedd yn gweithio fel Prif Swyddog Gŵyl Tafwyl.

Roedd Tara newydd orffen taith theatr lwyddiannus o Llyfr Glas Nebo, ac ar fin cychwyn ffilmio rhaglen newydd i S4C a theithio gyda’i band Lleden.

Ond gyda’r cyfnod clo daeth cytundebau gwaith y ddwy ohonom ni i ben.

Diolch i gynllun gan Gyngor Celfyddydau Cymru i gefnogi gweithwyr celfyddydol llawrydd, fe aeth y ddwy ohonom ni ati i ddatblygu syniad oedd wedi bod yn destun trafod rhyngom ers blynyddoedd… a bellach mae ganddo ni bodlediad i’w rannu gyda’r byd.

Tara sy’n arwain y sgyrsiau, ac mae hi wedi siarad yn agored iawn ei hun am ei phrofiadau o ddelio gyda phroblemau iechyd meddwl dros y blynyddoedd.

Mae creadigrwydd, cerddoriaeth a dawns, ynghyd â hyfforddi i fod yn athrawes yoga allan yn India ac ymgymryd â blynyddoedd o therapi meddylgarwch a Cognitive Behavioural Therapy, wedi chwarae rôl anferth yn ei siwrne i wella.

Ac mae hi wedi mwynhau clywed am brofiadau pobol eraill wrth greu’r podlediad.

“Mae’r sefyllfa od yr ydym ynddi ar y funud wedi bod yn gyfle i ddal fyny gyda nifer o bobl brysur fydda fel arfer ddim ar gael i recordio sgwrs,” eglura Tara.

“Ac wrth reswm, mae llawer yn troi at gelfyddyd i ymdopi gyda’r sefyllfa. Dw i’n teimlo ella bod pobl yn fwy parod i rannu eu profiadau a siarad yn fwy agored am eu teimladau ers y lockdown.”

Roeddem yn awyddus i gyhoeddi cyfres o bodlediadau yn annibynnol, a bod yn rhydd o unrhyw rwystrau golygyddol, ac yn teimlo bod digon o botensial y dyddiau hyn i gyhoeddi cyfresi ar y We yn unig.

Rydym am bwysleisio nad teclyn meddygol yw’r gyfres, ond rhes o sgyrsiau y gall y gynulleidfa uniaethu â nhw. Rydym yn cyfeirio pobl at meddwl.org os am gael gwybodaeth bellach a chyngor arbenigol.

Crïo a chwerthin!

Mae’r podlediad yn cynnwys pynciau trwm fel galar, fertility, alcohol ac iselder.

Ac yn naturiol mae’r sgyrsiau yn cyffwrdd â’r cyfnod clo; ond mae digon o ysgafnder yno hefyd… rydan ni wedi crio a chwerthin am yn ail wrth recordio bob sgwrs!

Yr artist cyfryngau cymysg o Gaerdydd, Cadi Dafydd Jones – sy’n creu dan yr enw Torri + Gludo (@torri.gludo) – sydd yn gyfrifol am y gwaith celf.

Mae hi wedi plethu elfennau gludlunio, digidol ac animeiddio i greu darnau swreal a chyfoes.

Diolch am eich sylwadau David’ gan Bitw yw trac sain y gyfres.

Bydd y gyfres ar gael ar AM, Y Pod, Apple Podcast, Google Podcasts, Spotify a’r holl blatfformau arferol, gyda’r podlediad cyntaf yn cael ei ryddhau ddydd Sul nesaf (Medi 27).

*

Dyma ragflas o rai o’r sgyrsiau…

HEATHER JONES

“Fi wedi cael nervous breakdown… oedd o’n gyfnod ofnadwy, a colli dad. A dw i’n cofio mynd ar y llwyfan i ganu ‘Colli Iaith’, a jyst canu… “Colli” …ac oeddwn i methu meddwl am y gair, a wnes i ddweud: “Sori, dw i’n dost”. A wnes i redeg off.”

AMEER DAVIES-RANA

“I rywun sy’n mynd trwy tough time, jyst wastad gwybod yndife bod yr amseroedd tough ddim yn para…pobl tough sydd yn para.”

GAI TOMS

“Fel dynion de, rydan ni’n uffernol… ac efo Dad de, yn dod o ryw draddodiad hen hen Methodistaidd chwarel… ti ddim yn cael teimlo, ti ddim yn cael… wnes i erioed eistedd lawr efo Dad a trafod be’ o ni’n deimlo.”

ELIN FFLUR

“Mae o fatha ryw massive taboo thing, ond dw i yn meddwl bo ni fel cymdeithas yn gwella bob dydd. Rydan ni’n siarad mwy am bethau sy’n effeithio ni – iechyd meddwl, galar, IVF… y mwya’ ohona ni sy’n rhannu ac yn addysgu, y gorau ydi o, de.”

HYWEL GWYNFRYN

“Dw i’n un o’r bobl yma sy’n credu, os wyt ti di torri dy goes ti’n mynd i’r ysbyty, a ti’n cael plastar ac mae o’n well ymhen amser… felly mi es i i weld rhywun, cynghorwr felly, ac esbonio beth oedd y sefyllfa. Ac mi wnaeth hynna fy nghynorthwyo i ddod i dermau yn araf deg bach hefo’i cholli hi.”

HUW STEPHENS

“Roedd colli dad yn… wel, mae jyst yn amser horrible yn dydy. Mae’n un o’r pethau yna rydach chi’n gwybod bod o’n mynd i ddigwydd rhyw bryd, ond chi dim ond yn gwybod beth mae fel pan rydach chi’n mynd trwyddo eich hunain.”

Dilynwch Dewr ar Twitter a Facebook