Cafodd drama dair rhan ITV, Des, dderbyniad gwresog iawn gan y beirniaid a’r gwylwyr wythnos ddiwethaf.

Adrodd hanes y llofrudd Dennis Nilsen roedd hi, dyn a lofruddiodd o leiaf 12 o fechgyn a dynion ifanc yn Llundain yn y 1970au a’r 1980au.

A ninnau wedi ein hamddifadu o ddramâu teledu newydd dros y cyfnod cloi, roedd hi’n anochel bron y byddai’r gyfres hon yn cael croeso brwd.