Mae’n rhyfedd yndyw e, sut ry’n ni’n gallu colli pethau sydd o dan ein trwynau.

Dw i wedi dod i’r casgliad – pan ry’n ni’n siarad am ffonau neu allweddi, neu unrhywbeth pwysig sy’n mynd ar goll – mae’n dibynnu lle ma’ch pen chi yn ystod y broses o’u gosod nhw lawr.

Dyma sy’n esbonio pam fod y wraig yn fwy tebygol o golli pethau na fi.