Mi fyddai proffwydi’r Hen Destament yn cael modd i fyw y dyddiau yma. Fyddai hyd yn oes Sodom a Gomora ddim ynddi.

Ac, wrth i’r newyddion dyfu a chymhlethu am bandemig y feirws Corona, mi fyddai yn anodd peidio cydymdeimlo rhyw ychydig â nhw.

Barn Duw fyddai eu dehongliad nhw o’r peth… a dyna fyddai dehongliad y rhan fwya’ o bobol tan ychydig ganrifoedd yn ôl… ond mae’n ymddangos yn fwyfwy amlwg bod yna gysylltiad rhwng afiechydon fel hyn a’n ffordd ni o fyw.