Does neb yn siŵr pam daeth Eddie Parris i Gymru o Barbados ar ddechrau’r ugeinfed ganrif. Ond rydym ni yn gwybod ei fod o wedi priodi Annie Alford yn 1909. Roedd Annie wedi cael bywyd caled. Yn oed 16 ac yn gweithio fel morwyn, roedd hi wedi cael babi cyn priodi. Doedd enw’r tad ddim ar y dystysgrif geni. Wedyn yn 21 oed, priododd hi James Alford – dyn 69 oed!