Does gen i ddim llawer ar ôl i’w wneud ar y sgaffald, sy’n beth da, gan fod y tywydd wedi mynd yn od. Fe ddaeth hi’n fellt a tharanau yn go sydyn ddydd Iau.

Dyna chi ddau air sydd ddim yn ymddangos yn yr un frawddeg yn aml yw ‘mellten’ a ‘sgaffald’… wel, ond mewn adroddiad crwner falle. Felly mewn a ni i’r tŷ i wneud list.