Ei wisg ysgol.

Rydw i wedi gorfod prynu trowsus newydd iddo fo, am fod yr hen rai’n rhy fyr. Roedd y siwmper yn lân, ond roedd o angen ei olchi eto am ei fod o wedi bod mor hir yn y drôr. Dw i wedi rhoi ei ddillad ymarfer corff mewn bag, ac wedi gwneud yn siwr fod ’na ddigon o drôns a pharau o sanau iddo fo.