Mae gamblo ar-lein yng nghyfnod y coronafeirws wedi cynyddu, gyda phobol yn mynd i ddyledion trwm ac yn dwyn er mwyn parhau i fedru betio a cholli “miloedd ar filoedd ar filoedd o bunnoedd”.

Dyna ddywed y gwleidydd o Gymru sy’n Gadeirydd Grŵp Trawsbleidiol Llywodraeth San Steffan ar Gamblo.

Mae Carolyn Harris yn pwyso ar Lywodraeth San Steffan i benodi Ombwdsmon i ymchwilio i mewn i gwynion am y diwydiant.