Let Our Teachers Be Heroes” oedd pennawd bras tudalen flaen y Daily Mail ddydd Gwener ddiwethaf.

Galwad oedd hi ar benaethiaid i agor eu hysgolion unwaith eto ac i athrawon ruthro ’nôl i’r stafell ddosbarth a thorri’r cyfnod cloi.

Mae’n siŵr bod y rhan fwyaf o ddarllenwyr Golwg yn llawn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru wedi datgan yn gwbl glir na fydd ysgolion Cymru’n ailagor ar y 1af o Fehefin.