Rwy’n ddyn ffasiynol iawn.
Er yn 82, mae gennyf y ddawn o edrych yn hynod o smart. Fel arfer, byddaf yn gwisgo rhywbeth syml gan Paul Smith – gyda chrafat llachar (Jean Paul Gaultier) er mwyn creu argraff.
Gyda fy sgidiau Loake, man-bag Chanel a sbectol haul Dior rwyf byth a beunydd yn troi pennau – gan gynnwys yn Oedfa’r Sul yng Nghapel Gwaelod-y-Garth.