Ddiwedd y mis fe fydd Endaf yn cyhoeddi sengl newydd o’r enw ‘Dan dy draed’ sy’n cynnwys Ifan Pritchard o’r band indi roc Gwilym.

Yn DJio mewn clybiau ers blynyddoedd, ac yn chwarae dim byd ond miwsig dawns electronig, mae Endaf yn cyfaddef bod byd y bandiau gitârs Cymraeg yn dipyn o ddirgelwch iddo tan yn ddiweddar.

Ond flwyddyn yn ôl fe gafodd Endaf ei ddewis yn un o 12 i fod ar gynllun Gorwelion y BBC a Chyngor Celfyddydau Cymru.