Mae gen i gopi o Casgliad o Ysgrifau T H Parry-Williams wrth fy mhenelin, ac un o gampau mawr awdur y gyfrol odidog hon yw ei allu anghyffredin i ysgrifennu’n ddeheuig a diddorol am bynciau cyffredin a chreaduriaid di-nod natur. Meddyliwch fod un o’n beirdd a’n llenorion mwyaf wedi ysgrifennu ar bynciau megis ‘Y Pryf Genwair,’ ‘Tywod’ a ‘Boddi Cath’. Wel, er nad wyf fi’n fardd nac yn llenor, rwyf am ragori mewn un ystyr ar yr hyn a gyflawnodd T H Parry-Williams yn ystod ei yrfa