Yr wythnos hon mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi’r bwriad i ail-strwythuro gêm y merched yng Nghymru ar gyfer y tymor 2021/22. Bydd y Gynghrair Genedlaethol yn parhau gyda dwy gynghrair ranbarthol newydd – Gogledd a De – yn cael eu cynnal gyda chymorth y Gymdeithas. Ar y lefel o dan hynny, bydd pêl-droed yn ‘hamddenol’ ac yn cael ei redeg gan y cymdeithasau pêl-droed lleol.