Y llyfr dw i ar ganol ei ddarllen

Y Gadair Gefn Ffyn Gymreig, (Tim a Betsan Bowen, Pethe Press, 2020). Dydw i ddim yn un am ddarllen llyfrau ffeithiol fel arfer, ond mae gen i ambell gadair ffyn, a diddordeb byw mewn hen bethau. Mae hwn yn llyfr newydd sbon, gan arbenigwyr yn eu maes, sy’n esbonio sut roedd gwneud yr hen gadeiriau ffyn erstalwm, ac ymhle.

Y llyfr a newidiodd fy mywyd