Hanes 

Fe brynodd Siôn a finnau Cwm Pennant yn ôl yn 2004, blwyddyn ar ôl i ni briodi. Fe fu Siôn yn dilyn y tŷ yma am flwyddyn gyfan ar-lein cyn i’r pris ddod i lawr digon i ni allu ystyried mynd i’w weld.

Mae’n adeilad diddorol. Yn wreiddiol, roedd Cwm Pennant a’r tŷ drws nesaf, Pen y Nant, yn un tŷ mawr a adeiladwyd rhyw 100 mlynedd yn ôl. Roedd y perchnogion gwreiddiol yn cyflogi gweision a morynion ond cafodd y tŷ ei rannu’n ddau yn y 1950au.