Wel o’dd e bownd o ddigwydd rhywbryd.

Fe ddaeth fy unig ffrwd o bleser yn ystod y gwarchae cofidaidd yma i ben wythnos ddiwetha’.

Wedi wyth wythnos o allu eistedd allan ar y sgwâr yn Llandeilo yn yfed coffi gyda’m ffrind, pob un ohonom ni ‘hyd coes brwsh ag ychydig extra’ oddiwrth ein gilydd, yn unol â chanllawiau Heno, daeth car heddlu heibio a’n gorfodi ni i symud o’r fan.