Dydy Nia ddim yn ddynes steddfod.

Mae hi wedi trio’i gorau, yn enwedig efo’r plant. Pan oedden nhw’n ddigon bach i gael eu darbwyllo gan eu hathrawes, byddai’r ddau yn cystadlu ar y llefaru. Cofiai Nia wylio’r ddau yn darnio un o gerddi T. Llew Jones gyda’u cambwysleisio a’u gorfynegi, nes bod ‘Cwm Alltacafan’ dawel, hudolus, yn swnio fel maes y gad. Diolchodd Nia’n dawel na chyrhaeddwyd y Steddfod Sir erioed.