MAIR TOMOS IFANS, cerddor, actor a storïwr

Ddoi di Dei? Llên Gwerin Blodau a Llwyni ac Yn ymyl Ty’n y Coed: Llên Gwerin Planhigion a Choed gan Mair Williams. Mi fydda i’n troi at y rhain yn aml ac yn trio  gweu be’ dw i’n ei ddysgu i mewn i’r chwedlau a’r straeon y byddaf yn eu hadrodd. Dw i’n hoffi hefyd ei bod wedi defnyddio llinellau o ganeuon gwerin fel teitlau.