Mae Eddie Ladd wedi dychwelyd i fyw at ei mam ar fferm Maesglas ger Tremain, i’r gogledd o dref Aberteifi, dafliad carreg o Aber-porth, a safle’r awyrlu ym Mlaenannerch.
Neithiwr (Mercher, Mai 20), roedd hi’n tywys gwylwyr y We ‘ar daith rithiol’ gyda hi drwy gyfrwng gwefan Zoom, ‘wrth iddi roi bywyd o’r newydd i’w gorffennol’, yn fyw o’i chartref.