Mae’n hen gŵyn nad ydyn ni’r Cymry’n cael ein portreadu digon ar sianeli teledu Prydain.

Ond diawch, fe gawson ni le anrhydeddus gan y BBC drwy’r Deyrnas Unedig gyfan nos Wener ddiwethaf.

Ro’n ni reit yn ei chanol hi. Wedi’n lapio’n glyd yng nghoch, glas a gwyn y cawl o nostalgia Prydeinllyd a weinodd y Gorfforaeth i ni i nodi 75 mlynedd ers diwedd yr Ail Ryfel Byd ar Ddiwrnod VE.