Wnes i wylio un o’r cyfresi mwyaf poblogaidd ar Netflix yr wythnos hon, sef The English Game. Mae’r ddrama yn digwydd yn 1882, pan oedd pêl-droed yn dechrau cael ei chwarae gan ddynion dosbarth gweithiol yn Lloegr. Roedd hi wedi bod yn gêm i fonheddwyr yn unig ers dechrau yn yr ysgolion preifat ac wedyn symud ymlaen i’r prifysgolion. Yn y gyfres ar Netflix, mae Blackburn yn curo Old Etonians yn ffeinal Cwpan yr FA 1883, a dyma un o’r gemau mwyaf symbolaidd yn hanes pêl-droed.