1. Bydd y gwersi’n dechrau am naw o’r gloch wrth fwrdd y gegin. Mae disgwyl i chi fod wedi gwisgo, ymolchi a chael brecwast CYN yr amser yma, a sicrhau fod batri eich laptops yn llawn / fod digon o offer ysgrifennu gennych chi. Disgwylir i’r holl lanast brecwast gael ei glirio ymaith o’r bwrdd CYN i’r offer gwaith gael ei roi yn ei le (achos ‘da ni ddim eisiau ail-adrodd yr holl ffiasco menyn cnau/llyfr màths.)