Mae’r holl sôn rŵan, wrth gwrs, am ailagor yr economi a’r gwleidyddion yn wynebu eu cwestiynau anodda’ eto.

Y nod, mae’n debyg, ydi cael busnesau ar eu traed eto cyn gynted â phosib. Ond, fel y mae amodau’n newid o ardal i ardal, mae amodau’n wahanol iawn hefyd o un busnes i’r llall.