Rwy’n ceisio osgoi gwylio, gwrando neu ddarllen unrhyw beth am y coronafeirws.
Mae’r holl ddadlau am PPE ac effeithlonrwydd strategaethau’r Llywodraeth yn rhy ddiflas i mi. Hynny, a thristwch y marwolaethau – a’r diffyg sicrwydd o ran y llwybr a fydd yn ein hebrwng yn ôl i normalrwydd.
Mae ’na rywbeth digalon ac ailadroddus am y cyfan.