Wel am dywydd braf wythnos d’wetha. Dw i’n gobeithio, pob tro ewn ni drwy bandemic, y bydd modd treulio wythnosau hir yn yr ardd yn llosgi nes fy mod yn ymdebygu i gimwch enfawr chwyslyd.

O leiaf pan dw i yn yr ardd mae’n bosib breuddwydio am y pethe dw i’n mynd i neud pan ddaw’r cyfnod annifyr yma i ben. Ar dop y rhestr mae cerdded y ci llai. Ac na, nid typo yw hwnna.