Rai wythnosau yn ôl fe ysgrifennais am y sefyllfa fregus yn Y Rhyl. Ac yn anffodus daeth y newyddion trist yr wythnos yma bod cyfarwyddwyr clwb pêl-droed enwog y dref wedi penderfynu rhoi’r ffidl yn y to. Ar ôl 141 o flynyddoedd, ni fydd Clwb Pêl-droed Y Rhyl yn bodoli.