Mae o’n iawn os ’da chi’n gwybod sut i’w drin o.

Dwi’n gwybod be’ ma’ pobol yn ddeud. Ma’ ’na ambell un ’di bod yn ddigon dewr i ddeud i ‘ngwynab i, a dwi’n siŵr fod ’na lawer mwy yn deud llawer gwaeth tu ôl i ‘nghefn i. Ond ma’n hawdd barnu pobol fatha Deio. Does ’na neb yn ’nabod o fatha dwi’n ei ’nabod o.