Ers y dechrau, mae pobol wedi bod yn chwilio am bethau da a allai godi o argyfwng y feirws. Dymuniadau ydi’r rhan fwya’, yn fwy na phroffwydoliaethau.

O ddifri, mae yna ambell i beth da yn bosib – ond ddaw’r rhein ddim trwy ddymuno’n unig. Mi fydd angen gweithredu i’w sicrhau.

Y peth cynta’ ydi newid agwedd. Ac o’r newid agwedd, newid mewn polisïau.