Dim ond dynion arbennig iawn sy’n gorfod dweud wrth bobol nad ydyn nhw yn Natsïaid. Donald Trump ydi un o’r dynion hynny.

Ymhen ychydig ddyddiau, mi fyddwn ni’n gwybod a ydi o am gael ail gyfle neu beidio i fod yn Arlywydd Unol Daleithiau America. Y naill ffordd neu’r llall, mae’r wlad honno’n wynebu helynt.