Mae’r Gweinidog Iechyd wedi gwrthod enwi’r cwmni a gefnodd ar addewid i ddarparu ‘profion coronafeirws’ yng Nghymru.

Mae’r profion yn medru dangos a yw person yn dioddef o’r haint neu beidio, ac mae cryn alw wedi bod amdanyn nhw yn enwedig ymhlith gweithwyr iechyd.

Roedd disgwyl i gwmni – sy’n parhau’n anhysbys – ddarparu miloedd o’r rhain bob diwrnod i Gymru, ond dros y penwythnos mi ddatgelodd Vaughan Gething bod y cynllun wedi’i ddryllio.