Mae’r byd ry’n ni’n byw ynddo ar hyn o bryd yn teimlo’n afreal iawn.

Neu fel’ny y mae hi i fi beth bynnag.

Mae fel petai ran ohono i’n gwrthod yn lân â chredu bod yr hyn sy’n digwydd gyda’r coronafeirws wir yn digwydd. Mai ryw hunllef fawr yw’r cyfan. Y bydd popeth yn iawn yn y bore, wedi deffro.