Mae Dr Rhys Thomas yn feddyg, yn filwr ac yn aelod o Orsedd yr Eisteddfod, a rhywffordd neu’i gilydd mae ganddo “rhan” i’w chwarae yn “nyfodol Cymru”, yn ôl un o’i gyfeillion.

Gyda’r dydd mae’n anesthetydd ymgynghorol yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin ac yn ei amser sbâr mae’n mynd yn benben â heriau anferthol.

Mae’n hoff iawn o wthio’i gorff i’r eithaf mewn triathlons a champau tebyg, ac yn ddiweddar mi ddyfeisiodd beiriant anadlu – dyfais a fydd o ddefnydd yn y frwydr yn erbyn coronafeirws.