Mae chwaraewr tenis bwrdd Paralympaidd wedi cael ei anrhydeddu gan Glwb Pêl-droed Abertawe heddiw (dydd Sadwrn, Medi 11).

Bu Paul Karabardak o ardal Penlan y ddinas yn cerdded allan i’r cae yng ngêm yr Elyrch yn erbyn Hull er mwyn derbyn cymeradwyaeth y dorf, ac yntau’n ddeilydd tocyn tymor yn Stadiwm Swansea.com.

Mewn neges ar Twitter, dywedodd Karabardak nad yw e wedi bod yn y stadiwm ers dros flwyddyn yn sgil Covid-19 a chysgodi rhag y feirws.

Enillodd e ddwy fedal yn Tokyo – y fedal efydd unigol a’r fedal arian fel tîm – a hynny am y tro cyntaf er iddo fe gystadlu yng ngemau 2008, 2012 a 2016.

“Heb fod yn y Liberty ers dros flwyddyn oherwydd COVID a chysgodi,” meddai Karabardak ar Twitter.

“Yfory byddaf yn cerdded allan yn fy Elyrch annwyl ar y cae hwn o flaen y ‘Jack Army’ yn fy ninas o flaen fy mhobol gyda 2 fedal Baralympaidd!”

Hefyd yno roedd Harri Jenkins (100m T33) a David Smith (Boccia).

 

Gemau Paralympaidd Tokyo

14 o fedalau Paralympaidd i athletwyr o Gymru

Y Cymro David Smith, y chwaraewr boccia, fydd yn cludo baner Prydain yn y seremoni i gau’r Gemau
Rygbi cadair olwyn

Rhagor o fedalau i athletwyr o Gymru yn Tokyo

Jim Roberts yn aelod o’r tîm rygbi cadair olwyn sydd wedi ennill aur, wedi efydd yr un i Paul Karabardak a Tom Matthews ddydd Sadwrn (Awst 28)