Mae Mike Flynn, rheolwr tîm pêl-droed Casnewydd, yn dweud ei fod e’n fodlon â’r pwynt oddi cartref yn Harrogate neithiwr (nos Wener, Medi 10).
Aethon nhw ar y blaen ddwywaith drwy goliau gan Scot Bennett a Robbie Willmott, gyda Harrogate, sydd ar frig yr ail adran, yn taro’n ôl y ddau dro gyda goliau gan Jack Muldoon a Luke Armstrong fel eu bod nhw’n gyfartal erbyn yr egwyl.
Dim ond un gêm mae’r Alltudion wedi’i chwarae gartref hyd yn hyn, ac maen nhw’n bedwerydd ar ddeg yn y tabl ar ôl chwe gêm.
“Roedd e’n bwynt da iawn yn erbyn tîm sydd ar frig y gynghrair, tîm sydd â thipyn o hyder ac sydd wedi bod gyda’i gilydd ers amser hir,” meddai Flynn.
“Maen nhw’n waith caled, yn enwedig gartref.
“Wnaethon ni ddim chwarae cystal ag y gallwn ni ar y bêl, ond maen nhw’n codi yn eich wynebau chi a gallwch chi weld pam iddyn nhw ddechrau cystal.
“Fe wnaethon ni golli yma y tymor diwethaf, felly mae angen i ni fod yn bositif ar ôl y canlyniad hwn.
“Rydyn ni hefyd wedi cael chwe gêm oddi cartref eisoes, gan gynnwys Ipswich, felly mae faint o deithio rydyn ni wedi gorfod ei wneud wedi bod yn anhygoel.
“Rydyn ni wedi cael ambell daith hir iawn ac fe fu’n ddechreuad da gan griw gonest o chwaraewyr.”
Ildio goliau
Serch hynny, doedd e ddim yn hapus â’r ffordd wnaeth ei dîm ildio’r ddwy gôl.
“Doedd y goliau wnaethon ni eu hildio ddim yn agos at fod yn ddigon da, a dywedais i hynny wrth y chwaraewyr hanner amser,” meddai.
“Mewn tair gêm nawr – yn erbyn Salford, Leyton Orient a Harrogate – rydyn ni wedi ildio goliau gwael iawn, sy’n wahanol iawn i ni a dyna pham wnes i newid y strwythur ar gyfer yr ail hanner.
“Ond wnaeth y bechgyn ddaeth ymlaen yn dda iawn ac mae’n rhoi ambell gur pen diddorol i fi o ran dewisiadau ar gyfer ein gêm nesaf.”