Mae gobeithion clwb pêl-droed Y Fenni o ddychwelyd i’r haen uchaf o bêl-droed merched yng Nghymru wedi cael hwb ar ôl iddyn nhw ddenu arian i uwchraddio eu stadiwm
Collodd Y Fenni eu statws yn y brif gynghrair yn dilyn ailstrwythuro gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru yn ystod yr haf, a hynny er iddyn nhw orffen yn bedwerydd y tymor diwethaf.
Mae’r clwb bellach yn ceisio ennill dyrchafiad yn ôl i’r haen uchaf – ond bydd angen iddo fodloni meini prawf sylfaenol Cymdeithas Bêl-droed Cymru er mwyn bod yn llwyddiannus.
Dyfarnwyd £32,866 i’r clwb uwchraddio llifoleuadau’r Stadiwm yn y Fenni ac mae gobaith y bydd y gwaith wedi’i gwblhau erbyn mis Tachwedd.
Gallai’r gwaith uwchraddio ganiatáu i’r tîm ennill dyrchafiad.
Dywedodd Stuart Summers, ysgrifennydd y clwb, eu bod “wrth eu boddau” gyda’r newyddion.
“Rydym wedi cael haf anodd ar ôl cwympo o’r hawn uchaf, felly mae derbyn y newyddion yma yn hwb mawr,” meddai.
“Mae’n gam mawr tuag at gael ein statws haen un yn ôl, ar yr amod ein bod yn gallu ennill y gynghrair.”
“Newyddion da i bêl-droed merched”
Mae’r gwaith uwchraddio yn cael ei ariannu gan grant o £27,800 gan Gronfa Gwella Caeau Pêl-droed Cymru – menter ar y cyd rhwng Cymdeithas Bêl-droed Cymru ac Ymddiriedolaeth Bêl-droed Cymru – a chyfraniad o £5,066 gan Gyngor Sir Fynwy.
Dywedodd Stuart Summers fod yr arian yn newyddion da i bêl-droed merched.
“Dyma’r tro cyntaf yn hanes pêl-droed yng Nghymru i dîm merched gael grant i uwchraddio ei lifoleuadau,” meddai.
“Mae’n hwb enfawr i bêl-droed merched, yn sicr yn y Fenni a Sir Fynwy.”