Fe balodd Warren Gatland 'chydig o dwll i'w hun gyda'i sylwadau yntau am 'banter' Joe Marler (llun: Gareth Fuller/PA)
Mae’n hawdd deall pam bod cefnogwyr wedi siomi â’r ymateb i sarhad Joe Marler, yn ôl Iolo Cheung…

Mae’n rhaid i mi gyfaddef nad oeddwn i – a llawer o bobol eraill – wedi disgwyl y penderfyniad gafodd ei wneud gan awdurdodau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad neithiwr.

Fydd prop Lloegr Joe Marler ddim yn wynebu unrhyw gosb bellach er iddo gael ei ddal ar feicroffon y dyfarnwr yn galw Samson Lee yn ‘gypsy boy’ yn ystod ffrwgwd pan oedd Cymru’n herio’r Saeson wythnos ddiwethaf.

Doedd ond rhaid i chi gael cip ar y cyfryngau cymdeithasol i weld ymateb anghrediniol rhai pobl i’r penderfyniad.

Ac er bod yr awdurdodau wedi dweud eu bod yn “ystyried y mater bellach ar ben”, mae’n anodd credu hynny rhywsut.

Y gyfraith yn glir

Yn ôl hyfforddwr Warren Gatland – a ddisgrifiodd sylw Marler fel ‘banter’ cyn ymddiheuro am hynny – roedd y ddau chwaraewr yng nghanol y ffrae eisoes wedi cymodi yn dilyn y gêm.

Ychwanegodd trefnwyr y bencampwriaeth, wrth esbonio pam na fyddai’r Sais yn wynebu cosb bellach, fod y sylw wedi cael ei wneud yn ddifeddwl – “in the heat of the moment”.

Esboniad, efallai, ond nid cyfiawnhad.

Mae llawer o droseddau yn cael eu cyflawni yn ddifeddwl. Dyw hynny ddim yn golygu na ddylen nhw gael eu cosbi.

Yn ôl rheolau disgyblu’r gêm mae unrhyw sylw sarhaus ar sail hil, grefydd, lliw, cenedligrwydd neu gefndir ethnig yn golygu gwaharddiad o bedair wythnos o leiaf.

Does dim amheuaeth fod y sylw ‘gypsy boy’ gafodd ei wneud yn disgyn i’r categori hwnnw – mae sipsiwn Romani yn cael eu diffinio yn gyfreithiol fel hil, ac fe gafodd y sylw ei wneud er mwyn ceisio herio gwrthwynebydd ar gae rygbi.

A fyddai’r un ymateb wedi dod gan yr awdurdodau petai’r sylw wedi cael ei wneud am hil arall? Dw i ddim yn siŵr.

Dylanwad

Ddylen ni ddim esgusodi’r digwyddiad chwaith ar sail ymddiheuriad sydyn Joe Marler i Samson Lee.

Dw i ddim yn amau o gwbl fod Marler yn edifar am beth ddywedodd, ond dyw’r ffaith bod y Cymro wedi derbyn ei ymddiheuriad ddim yn ddigon yn yr achos yma.

Cafodd y sylw ei glywed gan filoedd oedd yn gwylio ar y teledu ar y pryd hefyd – heb sôn am bawb sydd wedi darllen am y peth ers hynny. Nid dim ond Samson Lee gafodd ei sarhau, ond eraill o fewn y gymuned sipsiwn Romani hefyd.

Yn ogystal â hynny, fe glywodd plant ar hyd a lled y wlad chwaraewr rygbi rhyngwladol yn sarhau rhywun yn hiliol ac osgoi cosb. Pa fath o esiampl mae hynny’n ei osod?

‘Banter’ neu ddim?

Nid Warren Gatland yw’r unig berson sydd wedi lleisio’r farn bod mor a mynydd wedi’i wneud o’r sefyllfa, mai ‘banter’ oedd y cwbl.

Mae tynnu coes a chael hwyl yn rhan annatod o fod yn rhan o dîm mewn gêm fel rygbi wrth gwrs, a sawl camp arall, ac mae pethau sy’n cael eu hystyried yn jôc ymysg ffrindiau yn gallu cael eu camddehongli gan bobol o’r tu allan.

Ond does dim amheuaeth fod ‘banter’ hefyd yn cael ei ddefnyddio fel masg ar gyfer ymddygiad sarhaus ac annymunol ar brydiau. Dyw rhywbeth sy’n ‘ddoniol’ i un person ddim o reidrwydd yn cael ei weld yn yr un modd gan y person nesaf.

A phan mae’r sarhad hwnnw’n cael ei daflu at rywun gan chwaraewr sydd wedi cerdded deg llathen i ymuno â ffrwgwd â gwrthwynebydd ar gae rygbi, maddeuwch i mi os nad yw’n edrych fel cellwair cyfeillgar rhwng ffrindiau.

Mae llawer i’w ganmol am ymddygiad o fewn rygbi – cyfeillgarwch cefnogwyr, ufudd-dod tuag at ddyfarnwyr a pharch at gyd-chwaraewyr – yn enwedig o’i gymharu â phêl-droed ar adegau.

Ond mae’r bêl gron wedi delio’n llym ag achosion o hiliaeth fel y rheiny yn ymwneud â John Terry a Luis Suarez mewn blynyddoedd diweddar. Yn hynny o beth, mae gan rygbi wersi i’w dysgu.