Gareth Bale (Llun:CBDC)
Mae’n debyg bod Real Madrid wedi dweud wrth staff hyfforddi Cymru nad ydyn nhw eisiau i Gareth Bale chwarae yn y ddwy gêm gyfeillgar dros benwythnos y Pasg.

Yn ôl adroddiadau yn Sbaen mae’r clwb yn pryderu am ffitrwydd Bale gan mai dim ond tair gêm y mae wedi eu chwarae ers dychwelyd o anaf i groth ei goes yn ddiweddar.

Ond fe allai’r ddwy ochr ddod i gyfaddawd fyddai’n gweld seren Cymru yn chwarae yn erbyn Gogledd Iwerddon yng Nghaerdydd ar 24 Mawrth, cyn methu’r trip i’r Wcráin ar 28 Mawrth.

Fe fydd rheolwr Cymru Chris Coleman yn enwi’i garfan ar gyfer y ddwy gêm yfory.

Eraill ddim ar gael

Mae rheolwr Cymru eisoes wedi gorfod cynllunio ar gyfer y ddwy gêm heb Aaron Ramsey, James Collins, Paul Dummett a Dave Edwards, sydd i gyd yn diodde’ anafiadau.

Roedd amheuon hefyd dros ffitrwydd Andy King wedi iddo fethu buddugoliaeth ddiweddar Caerlŷr dros Newcastle, ond mae disgwyl nawr iddo fod yn ffit erbyn y penwythnos yma.

Rhain yw’r unig gemau cyfeillgar sydd yn weddill cyn i Coleman enwi’i garfan ar gyfer Ewro 2016, a’r ornest yn erbyn Gogledd Iwerddon fydd y tro olaf i’r tîm chwarae o flaen torf gartref cyn iddyn nhw deithio i Ffrainc.

Bydd un gêm gyfeillgar hefyd yn cael ei chwarae yn Sweden ar 5 Mehefin, pum niwrnod cyn dechrau’r Ewros ble bydd Cymru’n wynebu Slofacia, Lloegr a Rwsia.