Joe Marler (Llun: David Davies/PA)
Mae Joe Marler wedi cael ei enwi ar fainc Lloegr ar gyfer eu gêm yn erbyn Ffrainc ddydd Sadwrn ar ôl osgoi unrhyw gosb am sarhau un o brops Cymru.

Yn ystod yr ornest rhwng Lloegr a Chymru’r wythnos ddiwethaf fe alwodd Marler Samson Lee, sydd o dras sipsiwn Romani, yn “gypsy boy”.

Ar ôl i brop Lloegr ymddiheuro am y sylw, mae swyddogion y Chwe Gwlad bellach wedi penderfynu na fydd yn wynebu cosb.

Ond mae hynny wedi cythruddo llawer o gefnogwyr rygbi, oedd wedi disgwyl i’r awdurdodau gosbi sarhad o natur hiliol.

‘Mater wedi’i gau’

Roedd hyfforddwr Cymru Warren Gatland eisoes wedi disgrifio’r sarhad gan Marler fel ‘banter’ sydd i’w ddisgwyl o bryd i’w gilydd ar gae rygbi – sylw y bu’n rhaid i yntau ymddiheuro amdano.

Mae Marler eisoes wedi osgoi cosb am daro prop arall Cymru, Rob Evans, yn ystod y gêm, ac fe ddywedodd y Chwe Gwlad fod y mater gyda Samson Lee “bellach wedi’i gau” hefyd.

“Rydyn ni’n ymwybodol o ddifrifoldeb sylwadau Mr Marler a dydyn ni ddim yn cymeradwyo’r hyn gafodd ei ddweud o gwbl,” meddai’r gystadleuaeth.

“Mae Six Nations Rugby wedi ystyried yr adroddiad yn fanwl ac wedi nodi bod Mr Marler wedi edifar yn ddirfawr ac wedi ymddiheuro yn syth a heb anogaeth i Mr Lee yn ystod hanner amser.

Nodwyd hefyd bod hyfforddwr Lloegr Eddie Jones wedi cael gair â Marler am y digwyddiad, a’u bod yn “derbyn yr esboniad a roddwyd fod y sylw wedi cael ei wneud yn ddifeddwl”.

Syndod

Fe ddaeth y penderfyniad fel tipyn o syndod i lawer fodd bynnag, gan fod sarhau chwaraewr ar sail crefydd, hil, lliw, cenedligrwydd neu gefndir ethnig yn golygu cosb o bedair wythnos o leiaf o dan y rheolau disgyblu presennol.

Bydd Marler nawr yn rhydd i wynebu Ffrainc yng ngêm olaf y gystadleuaeth, gyda Lloegr eisoes wedi ennill y Chwe Gwlad ond yn chwilio am un fuddugoliaeth arall i sicrhau’r Gamp Lawn.

Ond mae hynny wedi cythruddo sawl un o fewn y byd rygbi, gyda’r sylwebydd Gareth Charles yn un o’r rheiny i fynegi anhapusrwydd gan ddweud ar Twitter bod “rygbi wedi gadael ei hun lawr”.