Ni fydd prop Lloegr, Joe Marler yn cael ei gosbi am daro prop Cymru, Rob Evans yn ystod yr ornest rhwng y ddwy wlad yn Twickenham yr wythnos diwethaf.

Daeth cadarnhad o’r penderfyniad gan drefnwyr Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ar drothwy’r penwythnos olaf a allai weld Lloegr yn ennill y Gamp Lawn am y tro cyntaf ers 2003.

Er bod y panel wedi penderfynu bod Marler yn euog o’r drosedd, doedden nhw ddim o’r farn fod y drosedd yn deilwng o gerdyn coch, a fyddai wedi arwain at waharddiad.

Cafodd y cyhoeddiad ei wneud ddiwrnod yn unig ar ôl i brop arall Cymru, Tomas Francis, a ddaeth i’r cae fel eilydd, gael ei wahardd am wyth wythnos am fyseddu llygaid Dan Cole.

Mae Marler yn dal i aros i glywed a fydd e’n cael ei gosbi am ei sylwadau am Samson Lee – mae disgwyl cyhoeddiad am y mater hwnnw fore Iau.

Fe allai Marler dderbyn gwaharddiad o bedair wythnos.