Rhidian Jones
Rhidian Jones sydd yn amddiffyn cornel hyfforddwr Cymru Warren Gatland…

Mae’n anodd plesio pawb. Ar un llaw mae Warren Gatland wedi dod ag ‘oes arian’ (os nad oes aur) i rygbi Cymru, ond ar y llaw arall dyw arddull y tîm ddim wrth fodd pawb ac mae sawl un wedi beirniadu diffyg gallu Cymru i sgorio ceisiau, yn arbennig yn erbyn gwledydd hemisffer y de.

Fel un a gafodd ei fagu yn oes hesb rygbi Cymru yn yr 1980au a’r 90au, mae’r wyth mlynedd diwethaf dan arweinyddiaeth Gatland wedi bod yn rhagorol – dwy Gamp Lawn, tair Pencampwriaeth Chwe Gwlad, perfformiadau clodwiw mewn dau Gwpan Byd, a’r Llewod ‘Cymreig’ yn ennill cyfres yn Awstralia.

Yn yr un cyfnod mae Lloegr wedi ennill un Bencampwriaeth yn unig ac wedi mynd trwy bum prif hyfforddwr – gredech chi ddim y pleser mae hynna’n rhoi i ddyn ar ôl gorfod gweld Lloegr yn ben ar y byd yn 2003!

Y rheswm bod Lloegr wedi bod yn newid hyfforddwyr bob whipstitsh yw bod nhw heb ennill yn ddigon aml.

Buddugoliaethau yw bara menyn rygbi rhyngwladol, ac mae arddull Cymru dan Gatland o gael Jamie Roberts a Taulupe Faletau i redeg yn gryf i lawr canol y cae a pheidio gor-fentro â’r bêl wedi dwyn ffrwyth (yn y Chwe Gwlad beth bynnag).

Chwaraewyr – y deunydd crai

Petai gan Gatland y chwaraewyr i chwarae gêm gyflym, fentrus, yna does dim amheuaeth gen i y byddai fe’n gweithredu’r arddull yna.

Roedd Wasps dan Warren Gatland a Shaun Edwards yn gallu sgorio digon o geisiau yn ogystal ag amddiffyn.

Ond does gan Gymru ddim y chwaraewyr i gystadlu â Seland Newydd ac Awstralia pan ddaw hi’n frwydr sgiliau rhwng dau dîm deheuig.

Mae cryfderau amlwg gan Jamie Roberts a Jonathan Davies, ac nid canolwyr fel Conrad Smith neu Matt Giteau mohonynt. Dyna fy nehongliad i o sut mae Gatland yn ei gweld hi, beth bynnag.

Mae modd beirniadu’r hyfforddwyr am yr arddull geidwadol, ond dim ond pwll bach o chwaraewyr cryf, cyflym, medrus sydd yn gallu trin y bêl sydd yng Nghymru.

Yn Seland Newydd mae chwaraewyr fel ’na rif y gwlith – mae ugeiniau ohonyn nhw’n ennill eu bara menyn yng nghynghreiriau proffesiynol Ewrop.

Mae dau Kiwi oedd yn chwarae rygbi rhannol broffesiynol yn Seland Newydd wedi dod i Gymru ac yn syth i mewn i dîm rygbi proffesiynol y Scarlets – Hadleigh Parkes a Michael Collins.

Yn achos Parkes, petai’n Gymro byddai’n un o’r 23 yn erbyn Ffrainc heb os nac oni bai.

Priestland v Biggar


Roedd Cymru'n chwarae gêm fwy agored gyda Rhys Priestland fel maswr, yn ôl Rhidian
Mae traddodiad anrhydeddus gan Gymru o chwaraewyr chwimwth sy’n gallu gweld bwlch, yn arbennig felly yn safle’r maswr.

Mae’r ffatri enwog wedi cynhyrchu maswyr deheuig fel Barry John, Phil Bennett, Cliff Morgan a Jonathan Davies. Mae llai o fylchau yn y gêm broffesiynol erbyn hyn felly mae arddull y chwarae wedi newid hefyd.

Ond am sawl blwyddyn dewisodd Gatland faswr sydd yn nes at arddull y maswyr yna uchod, sy’n gallu gweld bylchau’n reddfol ac yn footballer naturiol – Rhys Priestland.

Priestland oedd ffefryn Gatland, ond fe gafodd anafiadau a bu ymgyrch danbaid i’w ddisodli gan gefnogwyr y rhanbarthau eraill, a doedd honno ddim o gymorth i’w hyder bregus.

Collodd ei le yn y crys coch i Dan Biggar, sy’n faswr llai naturiol ond yn fwy gwydn o ran cymeriad.

Cafodd y rygbi cymharol agored a welwyd gan Gymru yng Nghwpan y Byd 2011 – pan oedd Priestland yn llywio – ei roi o’r neilltu, a gweithredwyd y Warrenball par excellence a welwyd yng Nghwpan y Byd 2015, i’r graddau bod Cymru wedi bod yn rhy geidwadol i ledu’r bêl yn erbyn 13 dyn Awstralia.

Cyfrifoldeb ehangach

Felly, yn y pen draw, chwaraewyr a’u galluoedd nhw sydd wedi gosod yr arddull sydd gan Gymru ar hyn o bryd.

Y rhain yw’r chwaraewyr mae Gatland wedi eu hetifeddu, ac mae e eisiau ennill pob gêm felly mae e’n gweithredu’r arddull fwyaf pragmataidd.

Mater i’r Undeb a’n hysgolion yw creu chwaraewyr mwy deheuig, ac mae cyfrifoldeb ar benaethiaid World Rugby hefyd i edrych ar y rheolau er mwyn creu mwy o fylchau ar y cae.

Dyw chwarae ar gaeau mwdlyd ar ôl gaeaf mor wlyb ddim yn gymorth, chwaith, i fagu sgiliau er mwyn cystadlu â gwledydd hemisffer y de.

Herio Ffrainc

Ond yn y cyfamser, dw i’n edrych ymlaen at weld Cymru a Ffrainc yn mynd benben heno.

Dw i’n disgwyl digon o redeg caled, ond gobeithio gwnaiff y crysau coch chwilio am fylchau yn amddiffyn Ffrainc ac ailgylchu’r bêl yn chwimwth er mwyn creu rhagor o le.

Mae Gatland wedi awgrymu y bydd Cymru’n rhedeg digon, yn arbennig yn yr ail hanner, ac mae hyfforddwr Ffrainc, Guy Novès, wedi bod yn sôn am ddod â flair y Ffrancwyr yn ôl.

Mae gobaith y cawn ni wledd o rygbi yn y crochan dan do, ac mae’r Bencampwriaeth eleni yn dyheu erbyn hyn am gêm gyffrous.