Dreigiau Casnewydd Gwent  15–18 Glasgow

Colli fu hanes y Dreigiau mewn gêm agos yn y Guinness Pro12 ar Rodney Parade nos Iau.

Glasgow oedd yr ymwelwyr i dde Cymru ac er i’r Dreigiau arwain y gêm am gyfnodau hir, yr Albanwyr aeth â hi yn y diwedd gyda chais hwyr Duncan Weir.

Y tîm cartref a gafodd y gorau o’r chwarter cyntaf, ac roeddynt chwe phwynt ar y blaen hanner ffordd trwy’r hanner diolch i gicio cywir Angus O’Brien, 9-3 y sgôr wedi tair cic lwyddiannus gan y maswr.

Aeth yr ymwelwyr i lawr i bedwar dyn ar ddeg yn y cyfnod hwnnw hefyd, gyda Greg Paterson yn derbyn melyn am atal O’Brien rhag dilyn ei gic ei hun.

Llwyddodd Glasgow serch hynny i gau’r bwlch i dri phwynt cyn i’r clo ddychwelyd i’r cae, diolch i ail gic gosb Weir.

Adferodd O’Brien y chwe phwynt o fwlch yn fuan wedyn ac felly yr arhosodd hi tan yr hanner, 12-6 y sgôr wedi deugain munud.

Roedd Glasgow’n well wedi troi a fu dim rhaid aros yn hir am gais cyntaf y gêm. Alex Dunbar a gafodd hwnnw, y canolwr yn manteisio ar daclo gwan i groesi.

Rhoddodd trosiad Weir yr Albanwyr ar y blaen am y tro cyntaf yn y gêm ond yn ôl y daeth y Dreigiau gyda phumed cic lwyddiannus O’Brien yn adfer y fantais.

Glasgow a Weir a gafodd y gair olaf serch hynny, y maswr yn croesi am y sgôr holl bwysig wyth munud o’r diwedd yn dilyn gwaith da yr wythwr mawr, Josh Strauss. Roedd amheuaeth fod y bas olaf ymlaen ond cafodd y cais ei ganiatáu gan y dyfarnwr fideo.

Bu rhaid i’r Dreigiau fodloni ar bwynt bonws yn unig am y bedwaredd gêm gynghrair yn olynol felly, ond nid yw hynny’n ddigon i’w codi o’r degfed safle yn nhabl y Pro12.

.

Dreigiau

Ciciau Cosb: Angus O’Brien 3’, 13’, 16’, 27’, 48’

.

Glasgow

Ceisiau: Alex Dunbar 42’, Duncan Weir 72’

Trosiad: Duncan Weir 43’

Ciciau Cosb: Duncan Weir 10’, 25’

Cerdyn Melyn: Greg Paterson 16’