Mae Dan Biggar yn holliach ar gyfer y gêm yn erbyn yr Alban (llun: Gareth Fuller /PA)
Mae hi’n hynod o anodd disgrifio fy nheimladau ar ôl y gêm ddydd Sul. Efallai cymysgedd o ryddhad a rhwystredigaeth.
Pan aeth Dan Biggar bant, a chyda phob parch i Rhys Priestland, doeddwn i ddim yn hyderus o fuddugoliaeth ac mewn gwirionedd ar ôl dechreuad araf iawn gan Gymru, rhyddhad oedd prif emosiwn y dydd.
Ond, ac mae yna ond, roedd y gêm yn ein dwylo ni pan aethon ni ar y blaen gyda 74 munud ar y cloc, ac yna gyda chic wael gan Lloyd Williams, Tomas Francis yn camsefyll a chic gosb i Iwerddon roedd y sgôr yn hafal unwaith eto.
Roedd siawns gan Priestland i fod yn arwr a chipio’r fuddugoliaeth ddau funud o’r diwedd ond na, erbyn y chwib olaf gêm gyfartal oedd hi.
Ydi’ch cwpan chi’n hanner gwag neu hanner llawn? Dw i’n meddwl mod i dal mewn sioc dros chwarae’r Cymry yn yr hanner awr agoriadol.
Wrth edrych ymlaen at y gêm yn erbyn Yr Alban fory, beth ydyn ni wedi’i ddysgu?
Dechrau gwell
Yn gyntaf, mae angen dechrau’n dda neu o leiaf bod yn barod am yr ornest yn y munudau agoriadol.
Ni fydd pob tîm mor fodlon gadael i Gymru grafu eu ffordd nôl mewn i’r gêm fel yr oedd y Gwyddelod!
Mae’n rhaid iddyn nhw fod fwy ar ddihun, nid ond i amddiffyn yn well ond i gymryd mantais o gyfleoedd ymosod.
Gwella’r sgiliau
Yn ymosodol, gyda Jonathan ‘Foxy’ Davies a Jamie Roberts nôl gyda’i gilydd roedd mwy o harmoni ymysg y canolwyr. Serch hynny roedd pob ymosodiad yn edrych fel cryfder dros ddawn.
Roedden ni’n chwilio am y dyn ac nid y gwagle ac wrth ledaenu’r bêl i’r asgell ac nid oedd digon o ymdrech i gael y bêl mas o’r sgarmes gyda chyflymdra priodol.
Weithiau roedd y bêl yn mynd i’r asgell yn rhy gyflym. Dw i’n teimlo bod y chwaraewyr yn rhy debyg ac yn bersonol, hoffwn weld Matthew Morgan ar y fainc er mwyn newid cyfeiriad yr ymosodiad.
Os yw Cymru eisiau chwarae gêm lydan, bydd angen codi sgiliau trafod y blaenwyr.
Siom ydoedd i beidio â chael gweld pa mor dda yr oedd Gareth Anscombe yn trafod y bêl, ond efallai bydd cyfle yn y gemau nesaf. Mae Liam Williams yn fygythiol iawn fel rhedwr, ond roedd hi’n amlwg nad oedd ei ffitrwydd yno er iddo lwyddo i redeg mwy o fetrau nag unrhyw aelod arall o’r tîm.
Sgrym gref
Yn y sgrym, wel, mae dyfodol disglair yn aros i Rob Evans. Am berfformiad anhygoel gan y prop ifanc, gwych! O blatfform mor sefydlog, siom ydoedd felly i weld Cymru yn trafferthu wrth ymosod.
O ran ffitrwydd fodd bynnag, efallai mod i’n anghywir ond mae’n edrych i mi fel petai ambell chwaraewr yn ei gweld hi’n anodd cynnal safonau ffitrwydd Cymru wrth chwarae dros y rhanbarthau.
Mae’r naid i fyny yn ymddangos yn uchel iawn o ran safon ffitrwydd a dw i’n meddwl mai hwn yw un o’r rhesymau pam ein bod ni’n cychwyn pob Pencampwriaeth yn araf iawn.
Yn sicr, doedd Sam Warburton ddim yn heini. Gwnaeth Liam Williams ei orau o dan amodau anodd. Prin iawn yw cyfleoedd Rhys Priestland gyda Chaerfaddon ac efallai petai wedi chwarae mwy yn ddiweddar fe fyddai wedi sylweddoli faint o amser oedd ganddo i sgorio’r gic adlam hwyr yna.
Ar wahân i’r hanner awr agoriadol, gyda llaw, roedd amddiffyn Cymru yn arbennig! I fi, Jamie Roberts oedd seren y gêm heb os nac oni bai. Roedd ei dacl ar Robbie Henshaw yn nerthol tu hwnt.
Beth am yr Alban?
Does dim amheuaeth bod yr Alban yn siomedig iawn ar ôl perfformiad difflach yn eu gêm agoriadol nhw, a fawr ddim uchafbwyntiau. Doedd dim adeg yn ystod y gêm lle’r oedd eu tîm nhw’n edrych yn agos at sgorio ceisiau.
Roedd Stuart Hogg yn rhedeg yn dda o’r cefn ond gyda dim llawer o gefnogaeth. Doedd Tommy Seymour ddim mor dda ag arfer ac efallai’r syndod mwyaf oedd perfformiad y pac. Ble roedden nhw?
Roedd Lloegr yn rheoli pob rhan o’r chwarae am adegau hir o’r gêm. All yr Alban dim bod mor wael eto, ond bydd rhaid iddyn nhw edrych ar y modd maen nhw’n amddiffyn ar yr asgell.
Wrth geisio stopio ymosodiad Lloegr roedd yr asgellwyr yn dod o’r tu fas i’r tu mewn, gan olygu bod gwagle ar gyfer dyn ychwanegol gan ddefnyddio’r cefnwr.
Roedd Lloegr wedi gweld hyn ac fe ddefnyddiodd Jack Nowell y gwagle i sgorio cais hyfryd yn y gornel. Dw i’n sicr y bydd Rob Howley yn gweithio ar systemau i wneud y defnydd gorau o’r cyfleoedd, ond a fydd y gallu gan Gymru i’w cymryd nhw?
Targedu Finn?
Dw i ddim yn gweld pwrpas creu gormod o ornest yn y sgrym. Sgrym digon cadarn sydd gan yr Albanwyr, felly dw i’n meddwl bod angen i Gymru gadw’n dynn o amgylch y sgarmes rydd er mwyn bwrw tyllau yn yr amddiffyn ac yna lledaenu’r bêl.
Doedd cicio Greg Laidlaw ddim yn wych ddydd Sadwrn diwethaf ac yn sicr bydd rhaid cymryd mantais o hyn. Pan mae Finn Russell o dan bwysau dydy e ddim mor hyderus i gicio neu drafod y bêl.
Mae ansicrwydd yn amlwg yn ei chwarae ar adegau, ond wedi dweud hynny pan fydd yr hyder yn llifo mae Russell, y canolwyr a Sean Maitland yn ffurfio ymosodiadau effeithiol.
Dim ond un newid sydd gan yr Alban sef Duncan Taylor yn y canol, ac yn syfrdanol mae Dan Biggar yn holliach i Gymru ac yn barod i wynebu her yr Albanwyr.
Dw i’n gobeithio bod Biggar yn gallu para am ran fwyaf o’r gêm. Yn ddiddorol, does dim lle i Alex Cuthbert ar y fainc ond mae Gareth Anscombe yn cymryd ei le.
Dyfarnwr lletchwith
Yn draddodiadol, gêm Cymru yn erbyn yr Alban yw’r gêm fwyaf agored, ond fory George Clancy yw’r dyfarnwr.
O bob dyfarnwr, yn fy marn i, fe yw’r un mwyaf lletchwith ac yn sicr nid yw’n ffrind i dactegau Cymru.
Yn fwy nag hynny, prin iawn yw’r gemau mae e’n dyfarnu ble mae’n caniatáu gêm sydd yn llifo, felly byddwch yn barod am sŵn y chwiban.
Os yw Cymru yn meddwl bod y gêm wedi’i hennill cyn cyrraedd y Stadiwm (‘sa i’n hoffi’r enw newydd), mi fydd yr Alban yn cipio’r fuddugoliaeth.
Ond os yw tîm Warren Gatland yn codi safon yr ymosod ac yn llwyddo i groesi’r llinell fantais yn fwy cyson, dw i’n rhagweld buddugoliaeth i Gymru.