Mae blaenasgellwr Cymru Sian Williams wedi ennill statws Athletwraig Elît gyda’r lluoedd awyr sydd yn golygu mai hi yw’r ferch gyntaf o Gymru i chwarae rygbi’n broffesiynol.
Fe ymunodd â’r awyrlu yn 2008 ac mae wedi’i lleoli yn RAF Brize Norton, Swydd Rhydychen, gan chwarae rygbi i dimau’r awyrlu a’r lluoedd arfog.
Mae hi hefyd yn cynrychioli’r Dreigiau a Chaerwrangon ac mae ganddi bellach 20 cap dros Gymru ers chwarae dros ei gwlad am y tro cyntaf yn 2011.
Dywedodd Sian Williams, sydd yn 25 ac yn wreiddiol o Wrecsam, ei bod wrth ei bodd â’r cyfle i arwain y ffordd i ferched eraill yn y gamp.
‘Un o’r goreuon’
Bydd hi nawr yn symud i RAF St Athan ym Mro Morgannwg ac yn cael cyfle i weithio’n agosach â staff Undeb Rygbi Cymru.
“Dw i wedi cyrraedd pwynt yn fy ngyrfa pan dw i jyst parhau i ddysgu a gwella,” meddai.
“Mae cael Statws Athletwraig Elît yn rhoi amser i mi cyn y Cwpan Byd Merched nesaf yn 2017 i geisio rhagori a gwneud popeth allai i fod yn un o’r chwaraewyr rygbi gorau yn y byd.”
Bydd tîm merched Cymru’n herio’r Alban am 2.00yp yn y Gnoll yng Nghastell-nedd ddydd Sul 14 Chwefror yn eu hail gêm yn y Chwe Gwlad, ar ôl colli o 21-3 yn yr ornest agoriadol yn Iwerddon.