Pa un o flogwyr Golwg360 sydd wedi darogan Camp Lawn arall i Gymru?
Blogwyr Golwg360 sydd yn edrych i mewn i’r belen grisial …
Ydi, mae’r amser yna o’r flwyddyn wedi cyrraedd eto – rhowch y crys coch a’r het genhinen amdanoch achos mae Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ar fin dechrau!
Mae timau hemisffer y gogledd wedi cael hen ddigon o amser i lyfu’u briwiau yn dilyn siom Cwpan y Byd bellach, a phenwythnos yma fe fydd yr ornest flynyddol yn dechrau unwaith eto i goroni tîm rhyngwladol gorau Ewrop.
Fe fydd golwg360 yn dilyn Cymru a gweddill y gystadleuaeth bob cam o’r ffordd – ac os ydych chi am fod yn rhan o’r hwyl, croeso i chi ymuno â’n cynghrair Ffantasi Rygbi ni eleni! (ar ôl i chi greu tîm, ewch i ‘Join League’ a rhowch y côd 1256260-29273 i mewn)
Fe fydd ein blogwyr hefyd yn cadw llygad ar hynt a helynt y timau yn ystod y gystadleuaeth – ac fel tamaid i aros pryd mae Rhidian Jones, Illtud Dafydd a Richard Carbis wedi bod yn ceisio dyfalu beth fydd yn digwydd dros y mis a hanner nesaf.
A fydd Cymru’n ennill y Gamp Lawn neu’r Bencampwriaeth?
RJ: Gyda thair gartref dw i’n mynd i ddweud y Gamp Lawn, ond bydd rhaid curo Iwerddon ddydd Sul i wneud hynny, a dw i’n credu y gwnawn ni.
ID: Na fyddwn, bydd curo Lloegr yn Twickenham un cam yn ormod.
RC: Dw i’n meddwl bod siawns dda gyda Chymru i ennill y Bencampwriaeth, ond mae gen i deimlad y bydd Ffrainc yn chwarae gydag antur a chyffro o dan hyfforddiant Guy Noves. Does dim llawer o sôn amdanyn nhw, felly cadwch lygaid ar dîm y Ffrancwyr.
Sut ‘dych chi’n disgwyl i’r chwe thîm orffen yn y tabl?
RJ: 1) Cymru 2) Lloegr 3) Ffrainc 4) Iwerddon 5) Yr Alban 6) Yr Eidal
ID: 1) Lloegr 2) Cymru 3) Ffrainc 4) Yr Alban 5) Iwerddon 6) Yr Eidal
RC: 1) Ffrainc 2) Cymru 3) Lloegr 4) Yr Alban 5) Iwerddon 6) Yr Eidal
Dim ond Rhidian Jones sydd yn meddwl y bydd Sam Warburton, sydd ar glawr Golwg yr wythnos hon, yn cael ei afael ar y bencampwriaeth
Pwy fydd chwaraewr y twrnament?
RJ: Hoffwn i feddwl mai rhywun o Gymru sy’n hoffi ymosod – Gareth Davies neu Justin Tipuric.
ID: Guilhem Guirado – bachwr Toulon i amlygu ei hun fel capten y Tricolore.
RC: Petai Dan Biggar yn chwarae ar ei orau, ‘dw i’n meddwl bod siawns arbennig ganddo i fod yn chwaraewr y twrnament, ond tu hwnt i garfan Cymru, Greg Laidlaw.
Pwy fydd prif sgoriwr ceisiau’r twrnament?
RJ: Mae George North yn benderfynol o wneud argraff eleni, felly fe amdani.
ID: Sean Maitland – bydd y Ciwi yn ffrwydro yn llinell ôl Vern Cotter.
RC: Gareth Davies.
Pwy fydd chwaraewr allweddol Cymru?
RJ: Alun Wyn Jones.
ID: Dan Biggar – ei form da yn ail-gydio ar y lefel ryngwladol wedi sawl wythnos gythryblus yng nghrys y Gweilch.
RC: Heb os nac oni bai, Dan Biggar.
Pa chwaraewr Cymru allai greu argraff annisgwyl?
Fe allai Gareth Anscombe greu argraff yn ystod y bencampwriaeth eleni, yn ôl Richard Carbis (llun: Joe Giddens/PA)
RJ: Mae cyfle gwych gan Rob Evans i etifeddu crys Gethin Jenkins yn barhaol.
ID: Bradley Davies – fe yw trydydd ddewis Gatland fel ail-reng wedi anaf Jake Ball ac fe gaiff gyfle.
RC: Gareth Anscombe. Dydyn ni ddim wedi ei weld ar ei orau eto ac efallai eleni y bydd Cymru’n elwa o’i ddawn ar y maes, fel roedd e’n arfer gwneud ar gaeau Seland Newydd.
Pa un o chwaraewyr y gwrthwynebwyr fydd rhaid i Gymru fod fwyaf gwyliadwrus ohono?
RJ: Jonny Sexton a’i gicio, Dylan Hartley a’i gorddi, ac efallai bydd Gaël Fickou o Ffrainc yn blaguro o’r diwedd dan ei hen hyfforddwr Guy Novès.
ID: Antoine Burban, blaenasgellwr Ffrainc ac un o hoelion wyth Stade Francais llynedd. Bydd rhaid iddo fe wneud argraff pan gaiff e gyfle.
RC: Dylan Hartley. Does dim amheuaeth ei fod yn hoffi chwarae yn erbyn Cymru. Bydd rhaid i’r blaenwyr fod yn barod am yr her.
Un peth ‘dych chi’n edrych ymlaen ato fwyaf?
RJ: Cymru’n dychwelyd i Twickers.
ID: Yr awyrgylch yng Nghaerdydd yn ystod yr oriau cyn y gemau cartref yn erbyn yr Alban, Ffrainc a’r Eidal. Does dim dinas yn creu buzz tebyg.
RC: Cyffro’r Chwe Gwlad ac efallai’r cyfle i weld mwy o geisiau nag arfer.
Mae Illtud Dafydd yn gobeithio y bydd cefnogwyr Cymru yn ystod y Chwe Gwlad yn parhau i ddilyn eu timau rygbi lleol drwy gydol y flwyddyn
Ac un peth ‘dych chi’n edrych ymlaen ato leiaf?
RJ: Clywed ‘Swing Low Sweet Chariot’.
ID: Cefnogwyr rygbi sydd ond yn amlygu’i hunain yn ystod misoedd Chwefror a Mawrth. Mae mwy i rygbi yng Nghymru na’r Chwe Gwlad ac mae pob clwb lleol yn haeddu cymorth cefnogwyr rygbi Cymru.
RC: Y dyfarnwyr teledu (oni bai bod y penderfyniadau yn mynd o blaid Cymru!).