Tom James
Mae Tom James yn mynnu ei fod wedi aeddfedu ac yn barod bellach am ail gyfle ar y llwyfan rhyngwladol, dros bum mlynedd ers iddo gynrychioli Cymru ddiwethaf.
Cafodd yr asgellwr ei ddewis ddoe yn nhîm Warren Gatland i wynebu Iwerddon yn y Chwe Gwlad ddydd Sul, ar ôl disgleirio i’r Gleision y tymor hwn.
Dyw e heb chwarae dros ei wlad ers iddo ennill ei ddegfed cap yn erbyn Seland Newydd nôl yn 2010, ac yn gynharach y flwyddyn honno roedd eisoes wedi tynnu nôl o garfan Cymru ar ôl peidio â chael ei ddewis ar gyfer gêm Chwe Gwlad.
Ac yntau’n 28 oed bellach fodd bynnag, mae’n teimlo ei fod yn barod nawr i gyflawni’i botensial gyda’r tîm cenedlaethol ar ôl cyfnod o chwarae ei rygbi dros y ffin.
Dianc o Gymru
Fe benderfynodd Tom James symud i Gaerwysg yn 2013 ac fe gyfaddefodd bod angen iddo ddianc o “fowlen bysgod” rygbi Cymru ar y pryd.
Ond ar ôl gwella’i gêm ac yna dychwelyd i’r Gleision llynedd mae’n teimlo ei fod wedi haeddu ail gyfle.
“Roedd rhaid i mi symud i ffwrdd, a bod y person roedd rygbi Cymru wedi anghofio amdano,” meddai.
“Ond rydych chi wastad eisiau chwarae dros eich gwlad, ac yn fy ail dymor yng Nghaerwysg, ar ôl ychydig o gemau da, roeddwn i’n meddwl y byddai’r alwad yn dod.
“Wnaeth e ddim, ond fe wnes i barhau i weithio’n galed, a nawr mae hynny wedi talu ar ei ganfed.”
Clod gan y capten
Mae Tom James wedi cael ei ddewis o flaen un o asgellwyr eraill y Gleision, Alex Cuthbert, yn nhîm Cymru ddydd Sul.
Ond ar ôl sgorio wyth cais mewn 12 gêm i’w ranbarth y tymor hwn, mae capten Cymru a’r Gleision Sam Warburton yn ffyddiog bod gan James rywbeth arbennig i’w gynnig.
“Mae e’n 28 oed felly mae e ar ei orau yn gorfforol mae’n siŵr, ac rydych chi’n gweld hynny yn y gampfa neu allan ar y cae – mae e’n athletwr hynod,” meddai Warburton.
“Rydych chi’n gweld Seland Newydd â’u hasgellwyr Maori sydd yn bwerus ac anodd eu darllen. Mae Tom fel yna i ni gyda’i bŵer, ac mae’n chwaraewr cyffrous i’w wylio.”