Gallai crys pêl-droed wedi’i lofnodi gan Pelé, a gafodd ei roi i Glwb Rygbi Cwmtwrch, gael ei werthu am hyd at £6,000 mewn ocsiwn yng Nghaerdydd ar Chwefror 12.
Yn ôl y disgrifiad ar wefan Rogers Jones Co, cafodd y crys ei wisgo gan seren Brasil tra ei fod yn chwarae i glwb Santos, a’i roi i Glwb Rygbi Cwmtwrch gan berthynas un o aelodau’r clwb yng Nghwm Tawe ddechrau’r 1970au.
Sgoriodd Pelé 619 o goliau mewn 638 o gemau i Santos rhwng 1956 a 1974.
Mae gobaith y gallai’r crys gael ei werthu am hyd at £6,000.
Phil Bennett
Eitem arall a allai gael ei werthu am bris tebyg yw crys rygbi Llanelli gafodd ei wisgo gan Phil Bennett yn 1972, y flwyddyn pan drechodd y Cymry Seland Newydd o 9-3 ar Barc y Strade.
Mae enw Bennett ar y crys a gafodd ei roi i Glwb Rygbi Cwmtwrch gan hyfforddwr Cymru, Clive Rowlands.
Ond mae ansicrwydd ai hwn oedd y crys a gafodd ei wisgo gan Bennett yn ystod y fuddugoliaeth honno yn erbyn Seland Newydd ar Hydref 31, 1972.
Adeilad clwb newydd
Mae’r eitemau’n cael eu gwerthu fel rhan o’r ymdrechion i godi arian ar gyfer adeilad newydd i Glwb Rygbi Cwmtwrch.
Fe fu Parc Glyncynwal yn gartref i’r clwb ers 124 o flynyddoedd, ac fel rhan o’u dathliadau 125 mlwyddiant, mae’r clwb wedi trefnu nifer o ddigwyddiadau codi arian.
Fe fu pryderon ers tro am gyfleusterau’r clwb, gan gynnwys yr ystafelloedd newid, ac mae Clive Rowlands, cyn-hyfforddwr Cymru a’r Llewod wedi rhoi nifer o eitemau i’w gwerthu mewn arwerthiant i godi arian at yr ymdrechion i wella cyfleusterau’r clwb.