Dim lle yn y garfan i Liam Williams
Fe fydd Justin Tipuric a Gareth Anscombe yn dechrau i Gymru yn erbyn Iwerddon yn eu gêm agoriadol ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ddydd Sul.

Mae asgellwr y Gleision Tom James a phrop y Scarlets Rob Evans hefyd wedi cael eu cynnwys yn y pymtheg fydd yn camu i’r cae yn erbyn y Gwyddelod yn Nulyn.

Sam Warburton fydd yn arwain y tîm fel capten, ond does dim lle i Liam Williams a Dan Lydiate sydd ddim yn hollol ffit eto ar ôl gwella o anafiadau.

Fel arall does dim llawer o enwau annisgwyl yn y tîm, gyda Jonathan Davies yn dychwelyd i’r canol ar ôl methu Cwpan y Byd ag anaf.

Camp Lawn?

Mae Lydiate wedi cael ei gynnwys ar y fainc, yn ogystal â’r asgellwr Alex Cuthbert a’r maswr Rhys Priestland, ond dyw Liam Williams ddim yn y garfan o gwbl.

Mae penderfyniad Gatland i ddewis Rob Evans hefyd yn golygu lle ar y fainc yn unig sydd i’r prop profiadol Gethin Jenkins.

Dywedodd hyfforddwr Cymru fod y tîm ar y cyfan yn un “profiadol … ond ag un llygad yn edrych tua’r dyfodol”.

Mae Cymru ac Iwerddon ymysg y ceffylau blaen ar gyfer y twrnament, ac felly fe allai colled yn eu gêm agoriadol fod yn ergyd drom i obeithion y naill dîm o gipio’r tlws.

Dywedodd cyn-asgellwr Cymru Shane Williams yr wythnos hon y gallai weld Cymru’n cipio’r Gamp Lawn unwaith eto os ydyn nhw’n dychwelyd o Iwerddon â buddugoliaeth.

Tîm Cymru v Iwerddon

Gareth Anscombe, George North, Jonathan Davies, Jamie Roberts, Tom James, Dan Biggar, Gareth Davies; Rob Evans, Scott Baldwin, Samson Lee, Luke Charteris, Alun Wyn Jones, Sam Warburton, Justin Tipuric Taulupe Faletau

Eilyddion: Ken Owens, Gethin Jenkins, Tomas Francis, Bradley Davies, Dan Lydiate, Lloyd Williams, Rhys Priestland, Alex Cuthbert