Matthew Morgan
Fe ddylai Warren Gatland roi mwy o gyfle i Matthew Morgan ddangos beth mae’n gallu ei wneud yn y Chwe Gwlad eleni, yn ôl un o gyn-sêr tîm Cymru.

Roedd Morgan yn rhan o’r garfan yn ystod Cwpan y Byd, ond dim ond unwaith y chwaraeodd y cefnwr bach chwim yn y gystadleuaeth a hynny yn y gêm grŵp yn erbyn Fiji.

O ran steil ei chwarae mae llawer wedi cymharu’r chwaraewr 23 oed ag un arall o ddewiniaid disglair rygbi Cymru, Shane Williams.

Ac mae’r dyn ei hun wedi dweud bod Morgan yn un o’r rhai allai ddisgleirio’r gwanwyn hwn, wrth i Warren Gatland baratoi heddiw i gyhoeddi’r tîm fydd yn wynebu Iwerddon yn yr ornest agoriadol.

Liam Williams yn ffit?

Mae amheuon o hyd a fydd Liam Williams yn ffit i ddechrau fel y cefnwr yn erbyn y Gwyddelod, gan mai dim ond 60 munud o rygbi mae wedi chwarae ers dychwelyd o anaf.

Fe allai hynny agor y drws i Matthew Morgan, un o’r chwaraewyr mwyaf talentog yn y garfan yn ôl y gŵr sydd â record ceisiau Cymru.

“Fi ‘di chwarae ac ymarfer gyda Matthew Morgan ers blynydde, ac i fi mae’n un o’r chwaraewyr gorau yn ymosod,” meddai Shane Williams wrth golwg360.

“Mae hyder gyda fe, mae’n cymryd chwaraewyr arno, ac mae’n joio chwarae gyda’r bêl yn ei ddwylo.

“Bob tro mae e wedi chwarae i Gymru, yn enwedig yn erbyn Fiji yng Nghwpan y Byd, roedd e’n arbennig. Felly fi’n gobeithio ei fod e’n cael cyfle.”

Wedi gwella

Fe fydd Matthew Morgan yn dychwelyd i Gymru yn yr haf ar ôl cytuno i symud o Fryste i Gaerdydd.

Ac mae ei gyfnod yn Lloegr ers gadael y Gweilch wedi bod yn hwb i’r chwaraewr, yn ôl yr asgellwr oedd yn chwarae ochr yn ochr ag e yn Stadiwm Liberty rai blynyddoedd yn ôl.

“Mae e’n neis i gael e’n dod nôl i Gymru,” meddai Shane Williams.

“Mae ‘di chwarae’n dda lan yn Bryste, fi’n credu ei fod e wedi dysgu lot, mae e’n fwy o chwaraewr nawr na phryd roedd e gyda’r Gweilch, ac i gyd sydd ishe arno fe nawr yw amser ar y cae.

Fi’n gobeithio fod e’n chwarae lot mwy yn y Chwe Gwlad a’i fod e’n cael y cyfle, achos mae rhywbeth sbesial gyda fe.”

Pwynt i’w brofi

Yn ôl cyn-asgellwr Cymru, oedd yn rhan o’r timau enillodd y Gamp Lawn yn 2005, 2008 a 2012 yn ogystal â’r bencampwriaeth yn 2013, mae gan Gymru gystal siawns ag unrhyw un yn y Chwe Gwlad eleni.

Ac fe fydd ambell chwaraewr yn y garfan, gan gynnwys yr asgellwr Alex Cuthbert gafodd Gwpan y Byd siomedig, yn awyddus i brofi pwynt.

“Mae chwaraewr fel Alex Cuthbert wedi cael digon o gyfle i chwarae dros Gymru, a chi’n gallu gweld pryd mae’n chwarae bod e ddim yn chwarae gyda hyder,” cyfaddefodd Shane Williams.

“O ddweud hynny mae e wedi bod yn chwarae’n dda i’r Gleision, felly falle bod tipyn o fomentwm ganddo fe yn mynd mewn i’r gemau Chwe Gwlad a bydd e’n gallu profi pwynt.

“Mae Sam Warburton hefyd wedi bod allan ers sbel, mae e wedi chwarae dim ond un gêm cyn y Chwe Gwlad, felly bydd pwynt ‘da fe i’w brofi.

“Dyw’r tîm ddim wedi cael ei ddewis eto ac mae i gyd lan yn yr awyr, mae lot o gystadleuaeth am safleoedd, ond mae hynny’n creu tîm cryfach fi’n credu.”

Stori: Iolo Cheung