West Brom 1–1 Abertawe                                                              

Bu rhaid i Abertawe fodloni ar bwynt yn unig oddi cartref yn yr Hawthorns nos Fawrth wedi i gôl hwyr Solomon Rondon gipio gêm gyfartal i West Brom.

Roedd hi’n ymddangos fod gôl ail hanner Gylfi Sigurdsson yn mynd i sicrhau buddugoliaeth bwysig i’r Cymry yn y gêm Uwch Gynghrair, ond bu rhaid iddynt rannu’r pwyntiau yn y diwedd wedi’r gôl hwyr.

Yn dilyn hanner cyntaf di sgôr fe roddodd Sigurdsson yr ymwelwyr ar y blaen toc wedi’r awr, yn gorffen yn daclus yn y cwrt cosbi.

Felly yr arhosodd hi tan yr ail funud o’r amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm pan rwydodd Rondon. Cafodd cynnig gwreiddiol Darren Fletcher ei atal yr y llinell ond adlamodd y bêl yn garedig i’r gŵr o Venezuela a gwnaeth yntau’r gweddill.

Mae’r canlyniad yn golygu fod yr Elyrch wedi mynd dair gêm heb golli yn yr Uwch Gynghrair, ond maent yn llithro un lle i’r unfed safle ar bymtheg yn y tabl oherwydd buddugoliaeth Bournemouth yn Crystal Palace.

.

West Brom

Tîm: Foster, Dawson, McAuley, Olsson, Evans (Gardner 53’), Yacob, Sandro (Anichebe 69’), Sessegnon (Berahino 62’), Fletcher, McClean, Rondon

Gôl: Rondon 90+2’

.

Abertawe

Tîm: Afabianski, Rangel, Fernandez, Williams, Taylor (Naughton 59’), Cork, Britton, Ki Sung-yueng (Paloschi 45’), Ayew (Amat 82’), Sigurdsson, Routledge

Gôl: Sigurdsson 62’

.

Torf: 22,062